Amdanom ni
Mae’r Lab Plant yn ganolfan ymchwil yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Nod ein gwaith ar sgiliau iaith, llythrennedd, rhifedd a datblygiad cymdeithasol plant yw gwella canlyniadau addysgol a llesiant. Mae’r Lab yn cysylltu sawl grŵp ymchwil annibynnol, yn ogystal â meithrinfa Tir na n-Og, Canolfan Dyslecsia Miles, a Chyfnewidfa Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru, er mwyn rhoi cyfle i ymchwilwyr, ymarferwyr, a theuluoedd weithio gyda’i gilydd. Rydym yn cydweithio’n agos â GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.
Prosiect dan sylw: Adroddiad Sefydliad Waterloo ar Asesiad Niwroddatblygiadol Effeithiol
Mae Lab Plant Bangor wrthi'n gweithio ar y cyd â seicolegwyr clinigol a phaediatregwyr i ddatblygu dull asesu newydd sy'n fwy addas i blant ag anghenion cymhleth, a phlant y mae eu hiaith gartref yn wahanol i'r iaith asesu gyffredin yn eu hardal. Ein gobaith yw y bydd y gwaith hwn, sy'n cael ei gefnogi'n hael gan Sefydliad Waterloo, yn helpu i fynd i'r afael ag amseroedd aros ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol ac i sicrhau bod plant ag anghenion cymhleth a'u teuluoedd yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu. Dywedodd y Doctor Samuel Jones, Prif Ymchwilydd a Chyfarwyddwr Lab Plant Bangor: "Bydd y prosiect hwn, a ariennir gan Sefydliad Waterloo, yn cyflwyno datganiad awdurdodol ar gyfer ymarferwyr ledled y DU ynghylch y broses o lunio asesiadau niwroddatblygiadol effeithiol ar gyfer plant ag anghenion cymhleth.”
Ein heffaith
Mae rhestr datblygiad cyfathrebol dwyieithog Cymraeg-Saesneg Prifysgol Bangor (BU WEB-CDI) yn holiadur y gall gofalwyr ei lenwi i ddweud wrthym am iaith a datblygiad cyfathrebol plentyn. Dan arweiniad yr Athro Debbie Mills, datblygwyd WEB-CDI Prifysgol Bangor yn benodol i ddiwallu angen lleol am offer asesu iaith dwyieithog addas yn y blynyddoedd cynnar, ac mewn ymateb i nifer o agendâu Llywodraeth Cymru (e.e., Siaradwch â mi: Lleferydd Iaith acynllun cyflawni cyfathrebu). Nododd adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru y WEB-CDI fel un o ddau offeryn yn unig sy’n addas ar hyn o bryd ar gyfer sgrinio datblygiad iaith cynnar plant sy’n siarad Cymraeg Saesneg.Mae'r ail offeryn a nodwyd, Offeryn Asesu Plant Bach Dwyieithog y DU (UKBTAT), yn defnyddio data WEB-CDI Prifysgol Bangor. Gallwch ddarganfod mwy am WEB-CDI PB yma.
Mae CAL:ON Cymru yn fenter llythrennedd dwyieithog cenedlaethol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, dan arweiniad Prifysgol Bangor ac wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Ganolfan Addysgu Llythrennedd: Offer tuag at Newid (CAL:ON) yn rhoi mynediad i ysgolion ledled Cymru at ddulliau dysgu proffesiynol ac arweiniad ar lythrennedd, rhaglenni iaith a llythrennedd, ac asesiadau o ansawdd uchel ac wedi’u seilio ar dystiolaeth. Mae’r rhain wedi’u cynllunio ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Nod CAL:ON yw cefnogi ysgolion i wella eu dealltwriaeth a’u defnydd o ddulliau effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o addysgu darllen ac ysgrifennu. Rydym am alluogi pob plentyn, waeth beth fo’i allu, i fod yn ddarllenwyr ac yn ysgrifenwyr hyderus, llawn cymhelliant, a llwyddiannus. Gallwch ddysgu mwy am CAL:ON yma.
Mae gan Adran Seicoleg Prifysgol Bangor gyfleusterau ymchwil o safon uchel ar gyfer olrhain llygaid, awdioleg, EEG, TMS, fNIRS ac fMRI, yn ogystal ag adnoddau uwchgyfrifiadura.
I ddysgu mwy am ein gwaith, cysylltwch â: childlab@bangor.ac.uk.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am astudio seicoleg datblygiad a niwrowyddoniaeth wybyddol ym Mhrifysgol Bangor.
Sefydlwyd Tir na n-Og ym 1990 fel canolfan gofal plant ac ymchwil i blant gan Adran Seicoleg Prifysgol Bangor, ac mae wedi bod yn darparu gofal ac addysg o safon eithriadol o uchel i blant ers dros 30 mlynedd.
Mae Tir na n-Og yn darparu amgylchedd diogel, hapus a llawn cymhelliant i fabanod a phlant rhwng tri mis a phedair oed lle maent yn cael rhyddid i archwilio, dysgu, a chwarae dan ofal staff profiadol, cymwys a brwdfrydig.
Mae ymchwil sydd wedi’i gynnal yn Tir na n-Og wedi arwain at fwy na 30 o gyhoeddiadau sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid mewn cyfnodolion sy'n ymwneud â datblygiad, iechyd ac ymddygiad plant, a’u cyflwyno mewn mwy na 100 o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.
I gael gwybod mwy cliciwch yma.
Cyfnewidfa Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru (NWSLE)
Mae NWSLE wedi'i sefydlu i feithrin cysylltiadau rhwng clinigwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, gyda'r nod o wella’r gwaith asesu clinigol, ymyrraeth ac adferiad ledled Gogledd Cymru. Mae ein ffocws yn eang, ac yn ymgorffori anghenion cyfathrebu, lleferydd ac iaith gydol oes.
Rydym yn cael ein harwain gan nifer o agendâu’r llywodraeth, gan gynnwys Siarad Gyda Fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a rhaglen Plant Iach Cymru, sy'n ceisio sicrhau bod holl blant Cymru yn cyrraedd cerrig milltir datblygiadol allweddol a'u bod yn barod ar gyfer yr ysgol. Nod y Gyfnewidfa yw meithrin cydweithredu drwy gyfathrebu parhaus a chynhadledd flynyddol. Cysylltwch â ni drwy NWSLE@bangor.ac.uk
Sefydlwyd Canolfan Dyslecsia Miles ym 1974, ac mae’n rhan o Ysgol SeicolegPrifysgol Bangor. Mae’n darparu asesiadau diagnostig ar gyfer dyslecsia, dulliau addysgu arbenigol i blant ac oedolion, a hyfforddiant proffesiynol i ysgolion ac athrawon, yn ogystal ag ymchwil o safon fyd-eang i sut rydym yn dysgu darllen ac ysgrifennu. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Detholiad o gyhoeddiadau diweddar
Bazhydai, M., Wong, M. K., Altmann, E. C., Jones, S. D., & Westermann, G. (2026). No Evidence for Curiosity‐Driven Information Selection Advantage in Infants’ Novel Word Learning. Developmental Science, 29(1), e70101. https://doi.org/10.1111/desc.70101
Jones, S. D., Rauwolf, P., & Westermann, G. (2025). Computational rationality and developmental neurodivergence. Trends in Cognitive Sciences, 29(4), 314-317. https://doi.org/10.1016/j.tics.2025.01.006
Jones, S. D., Jones, M. W., Koldewyn, K., & Westermann, G. (2025). Perception and cognitive control in rationally inattentive child behaviour. Developmental Science, 28(1), e13587. https://doi.org/10.1111/desc.13587
Downing, C., Evans-Jones, G., Calabrich, S. L., Wynne, C., Cartin, R., Dunton, J., ... & Jones, M. (2024). Literacy instruction from afar: evidence for the effectiveness of a remotely delivered language-rich reading programme. Reading and Writing, 1-15. https://link.springer.com/article/10.1007/s11145-023-10502-7
Jones, S. D., Jones, M., Koldewyn, K., & Westermann, G. (2024). Rational inattention: A new theory of neurodivergent information seeking. Developmental Science, e13492. https://doi.org/10.1111/desc.13492
Jones, S. D., Stewart, H. J., & Westermann, G. (2024). A maturational frequency discrimination deficit may explain developmental language disorder. Psychological Review, 131(3), 695–715. https://doi.org/10.1037/rev0000436
Walbrin, J., Almeida, J., & Koldewyn, K. (2023). Alternative brain connectivity underscores age-related differences in the processing of interactive biological motion. Journal of Neuroscience, 43(20), 3666-3674. https://doi.org/10.1523/JNEUROSCI.2109-22.2023
Ein cyllidwyr a'n partneriaid